1 Casglodd Ben-hadad brenin Syria ei holl lu, gyda meirch a cherbydau, a deuddeg ar hugain o frenhinoedd gydag ef, ac aeth i warchae ar Samaria a brwydro yn ei herbyn.
2 Anfonodd negesyddion i'r ddinas at Ahab brenin Israel,
3 a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed Ben-hadad: ‘Fi piau dy arian a'th aur, a hefyd dy wragedd a'th blant tecaf.’ ”
4 Atebodd brenin Israel, “Fel y dywedi, f'arglwydd frenin; ti piau fi a phopeth a feddaf.”