13 Daeth rhyw broffwyd at Ahab brenin Israel a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘A weli di'r holl dyrfa fawr hon? Rhoddaf hi yn dy law heddiw, a chei wybod mai fi yw'r ARGLWYDD.’ ”
14 Gofynnodd Ahab, “Trwy bwy?” Ac atebodd, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trwy filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau.’ ” Yna gofynnodd, “Pwy sydd i gychwyn y frwydr?” Ac meddai'r proffwyd, “Tydi.”
15 Pan rifodd filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau, yr oedd dau gant tri deg a dau ohonynt, ac yna rhifodd holl bobl Israel, ac yr oedd saith mil.
16 Ac aethant allan ganol dydd, pan oedd Ben-hadad yn meddwi yn y pebyll gyda'r deuddeg brenin ar hugain oedd yn ei gynorthwyo.
17 Daeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau allan i ddechrau; ac anfonwyd neges at Ben-hadad fod dynion yn dod allan o Samaria.
18 Dywedodd, “Prun bynnag ai ceisio heddwch ai ceisio rhyfel y maent, daliwch hwy yn fyw.”
19 Parhau i ddod allan o'r ddinas a wnaeth milwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau, gyda'r fyddin i'w canlyn.