32 A rhoesant sachliain am eu llwynau a rhaffau am eu gyddfau, a mynd at frenin Israel a dweud wrtho, “Mae dy was Ben-hadad yn dweud, ‘Arbed fy mywyd.’ ” Meddai yntau, “A yw'n fyw o hyd? Fy mrawd ydyw.”
33 Yr oedd y dynion yn gwylio am arwydd, a buont yn gyflym i ddal ar ei eiriau, a dweud, “Ie, dy frawd Ben-hadad.” A dywedodd, “Ewch i'w nôl.” Pan ddaeth Ben-hadad allan ato, derbyniodd ef i'w gerbyd,
34 a dywedodd Ben-hadad wrtho, “Dychwelaf y trefi a ddygodd fy nhad oddi ar dy dad; a chei osod marchnadau i ti dy hun yn Namascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria; rhyddha fi ar yr amod hwn.” A gwnaeth Ahab gytundeb ag ef a'i ollwng yn rhydd.
35 Yna dywedodd un o urdd y proffwydi wrth gyfaill iddo trwy air yr ARGLWYDD, “Taro fi'n awr.” Ond gwrthododd ei gyfaill ei daro.
36 A dywedodd yntau wrtho, “Am iti wrthod ufuddhau i lais yr ARGLWYDD, bydd llew yn ymosod arnat pan ei oddi wrthyf.” Ac wedi iddo fynd oddi wrtho, cyfarfu llew ag ef ac ymosod arno.
37 Yna cafodd y proffwyd ŵr arall a dweud, “Taro fi'n awr.” A thrawodd y gŵr hwnnw ef a'i glwyfo.
38 Wedyn aeth y proffwyd a disgwyl am y brenin ar y ffordd, a chadach dros ei lygaid rhag iddo'i adnabod.