34 a dywedodd Ben-hadad wrtho, “Dychwelaf y trefi a ddygodd fy nhad oddi ar dy dad; a chei osod marchnadau i ti dy hun yn Namascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria; rhyddha fi ar yr amod hwn.” A gwnaeth Ahab gytundeb ag ef a'i ollwng yn rhydd.
35 Yna dywedodd un o urdd y proffwydi wrth gyfaill iddo trwy air yr ARGLWYDD, “Taro fi'n awr.” Ond gwrthododd ei gyfaill ei daro.
36 A dywedodd yntau wrtho, “Am iti wrthod ufuddhau i lais yr ARGLWYDD, bydd llew yn ymosod arnat pan ei oddi wrthyf.” Ac wedi iddo fynd oddi wrtho, cyfarfu llew ag ef ac ymosod arno.
37 Yna cafodd y proffwyd ŵr arall a dweud, “Taro fi'n awr.” A thrawodd y gŵr hwnnw ef a'i glwyfo.
38 Wedyn aeth y proffwyd a disgwyl am y brenin ar y ffordd, a chadach dros ei lygaid rhag iddo'i adnabod.
39 Pan ddaeth y brenin heibio, llefodd arno a dweud, “Aeth dy was i ganol y frwydr, a dyna rywun yn dod ac yn trosglwyddo dyn imi ac yn dweud, ‘Edrych ar ôl y dyn yma; os bydd yn dianc, rhaid i ti gymryd ei le neu dalu talent o arian.’
40 Ond tra oedd dy was yn brysur hwnt ac yma, diflannodd y dyn.” Yna meddai brenin Israel wrtho, “Felly boed dy ddedfryd; tydi dy hun sydd wedi ei phennu.”