37 Yna cafodd y proffwyd ŵr arall a dweud, “Taro fi'n awr.” A thrawodd y gŵr hwnnw ef a'i glwyfo.
38 Wedyn aeth y proffwyd a disgwyl am y brenin ar y ffordd, a chadach dros ei lygaid rhag iddo'i adnabod.
39 Pan ddaeth y brenin heibio, llefodd arno a dweud, “Aeth dy was i ganol y frwydr, a dyna rywun yn dod ac yn trosglwyddo dyn imi ac yn dweud, ‘Edrych ar ôl y dyn yma; os bydd yn dianc, rhaid i ti gymryd ei le neu dalu talent o arian.’
40 Ond tra oedd dy was yn brysur hwnt ac yma, diflannodd y dyn.” Yna meddai brenin Israel wrtho, “Felly boed dy ddedfryd; tydi dy hun sydd wedi ei phennu.”
41 Heb oedi dim, tynnodd yntau'r cadach oddi ar ei lygaid, a gwelodd brenin Israel mai un o'r proffwydi oedd.
42 Dywedodd wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Am iti ollwng yn rhydd y gŵr oedd i'w ddifodi, rhaid i ti gymryd ei le, a'th bobl di le ei bobl ef.’ ”
43 Dychwelodd brenin Israel adref i Samaria yn ddigalon a dig.