9 Yna dywedodd y brenin wrth negesyddion Ben-hadad, “Dywedwch wrth f'arglwydd frenin, ‘Gwnaf bopeth a hawliaist gan dy was y tro cyntaf, ond ni allaf wneud y peth hwn.’ ” Ymadawodd y negesyddion a mynd â'r ateb i Ben-hadad.
10 Anfonodd hwnnw'n ôl a dweud, “Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os bydd llwch Samaria yn ddigon i wneud dyrnaid bob un i'r bobl sy'n fy nilyn.”
11 Ond ateb brenin Israel oedd, “Dywedwch wrtho, ‘Peidied yr un sy'n codi arfau ag ymffrostio fel yr un sy'n eu rhoi i lawr.’ ”
12 A phan glywodd Ben-hadad y dywediad hwn, ac yntau'n diota gyda'r brenhinoedd eraill yn y pebyll, dywedodd wrth ei weision, “Ymosodwch.” Ac ymosodasant ar y ddinas.
13 Daeth rhyw broffwyd at Ahab brenin Israel a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘A weli di'r holl dyrfa fawr hon? Rhoddaf hi yn dy law heddiw, a chei wybod mai fi yw'r ARGLWYDD.’ ”
14 Gofynnodd Ahab, “Trwy bwy?” Ac atebodd, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trwy filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau.’ ” Yna gofynnodd, “Pwy sydd i gychwyn y frwydr?” Ac meddai'r proffwyd, “Tydi.”
15 Pan rifodd filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau, yr oedd dau gant tri deg a dau ohonynt, ac yna rhifodd holl bobl Israel, ac yr oedd saith mil.