11 Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Â'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.’ ”
12 Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, “Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin.”
13 Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, “Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant.”
14 Atebodd Michea, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf a lefaraf.”
15 Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, “Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?” A dywedodd yntau wrtho, “Dos i fyny a llwydda, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin.”
16 Ond dywedodd y brenin wrtho, “Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio â dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?”
17 Yna dywedodd Michea:“Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniaufel defaid heb fugail ganddynt.A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Nid oes feistr ar y rhain;felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.’ ”