3 dywedodd brenin Israel wrth ei weision, “A wyddoch chwi mai ni piau Ramoth-gilead? A dyma ni'n dawel ddigon, yn lle ei chipio o law brenin Syria.”
4 A gofynnodd brenin Israel i Jehosaffat, “A ddoi di gyda mi i ryfel i Ramoth-gilead?” Dywedodd Jehosaffat wrth frenin Israel, “Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di, fy meirch i fel dy feirch di.”
5 Ond meddai Jehosaffat hefyd wrth frenin Israel, “Cais yn gyntaf hefyd air yr ARGLWYDD.”
6 Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, tua phedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, “A ddylwn fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?” Dywedasant hwythau, “Dos i fyny, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin.”
7 Ond holodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?”
8 Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oes, y mae un gŵr eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla; ond y mae'n atgas gennyf, am nad yw'n proffwydo lles i mi, dim ond drwg.” Dywedodd Jehosaffat, “Peidied y brenin â dweud fel yna.”
9 Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, “Tyrd â Michea fab Imla yma ar frys.”