34 A thynnodd rhyw ddyn ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro'n ôl, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo.”
35 Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i'r brenin aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr, pan fu farw; a llifodd gwaed yr archoll i waelod y cerbyd.
36 A phan fachludodd yr haul aeth y gri drwy'r gwersyll, “Adref, bawb i'w dref a'i fro; bu farw'r brenin!”
37 Aethant â'r brenin i Samaria a'i gladdu yno;
38 a phan olchwyd y cerbyd wrth lyn Samaria, lleibiodd y cŵn ei waed ac ymolchodd y puteiniaid ynddo, yn ôl y gair a lefarodd yr ARGLWYDD.
39 Onid yw gweddill hanes Ahab, a'r cwbl a wnaeth, a hanes y palas ifori a gododd, a'r holl drefi a adeiladodd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
40 A bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia i'r orsedd yn ei le.