46 Hefyd fe ddileodd o'r tir yr olaf o buteinwyr y cysegr a adawyd o ddyddiau ei dad Asa.
47 Nid oedd brenin yn Edom. Fe wnaeth rhaglaw'r brenin Jehosaffat
48 long Tarsis i fynd i Offir am aur. Ond nid aeth, oherwydd drylliwyd y llong yn Esion-geber.
49 Yna dywedodd Ahaseia fab Ahab wrth Jehosaffat, “Fe â fy ngweision i gyda'th weision di mewn llongau.” Ond nid oedd Jehosaffat yn fodlon.
50 Bu farw Jehosaffat, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
51 Daeth Ahaseia fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn yr ail flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda. Teyrnasodd ar Israel am ddwy flynedd.
52 Gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilynodd lwybr ei dad a'i fam, a llwybr Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.