15 Ahimaas yn Nafftali (cymerodd ef Basemath, merch Solomon, yn wraig);
16 Baana fab Jusai yn Aser ac Aloth;
17 Jehosaffat fab Parus yn Issachar;
18 Simei fab Ela yn Benjamin;
19 Geber fab Uri yn nhiriogaeth Gilead (gwlad Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Basan). Yr oedd un prif raglaw dros y wlad.
20 Yr oedd Jwda ac Israel mor niferus â'r tywod ar lan y môr; yr oeddent yn bwyta ac yn yfed yn llawen.
21 Yr oedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd o afon Ewffrates drwy wlad Philistia at derfyn yr Aifft, a hwythau'n dwyn teyrnged ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei fywyd.