20 Yr oedd Jwda ac Israel mor niferus â'r tywod ar lan y môr; yr oeddent yn bwyta ac yn yfed yn llawen.
21 Yr oedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd o afon Ewffrates drwy wlad Philistia at derfyn yr Aifft, a hwythau'n dwyn teyrnged ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei fywyd.
22 Ymborth beunyddiol Solomon oedd deg corus ar hugain o beilliaid a thrigain corus o flawd;
23 deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen o'r borfa, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, gafrewigod, ewigod, a dofednod breision.
24 Yr oedd yn llywodraethu'n frenin dros y gwledydd i'r gorllewin o'r Ewffrates, o Tiffsa hyd Gasa, dros yr holl frenhinoedd i'r gorllewin o'r afon.
25 Cafodd heddwch ar bob tu, ac yr oedd Jwda ac Israel yn trigo'n ddiogel, holl ddyddiau Solomon, pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, o Dan hyd Beerseba.
26 Yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau ar gyfer ei geffylau-cerbyd, a deuddeng mil o feirch.