6 Ahisar yn arolygwr y tŷ; Adoniram fab Abda yn swyddog llafur gorfod.
7 Yr oedd gan Solomon ddeuddeg rhaglaw yn holl Israel yn gofalu am ymborth y brenin a'i dŷ; am fis yn y flwyddyn y gofalai pob un am yr ymborth.
8 Dyma'u henwau: Ben-hur yn ucheldir Effraim;
9 Ben-decar yn Macas a Saalbim a Beth-semes ac Elon-beth-hanan;
10 Ben-hesed yn Aruboth (ganddo ef yr oedd Socho a holl diriogaeth Heffer);
11 Ben-abinadab yn holl Naffath-dor (Taffath, merch Solomon, oedd ei wraig);
12 Baana fab Ahilud yn Taanach a Megido a holl Beth-sean, sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Beth-sean hyd Abel-mehola a thu hwnt i Jocmeam;