12 Yna dywedodd Solomon:“Dywedodd yr ARGLWYDD y trigai yn y tywyllwch.
13 Gorffennais adeiladu i ti dŷ aruchel,lle iti breswylio ynddo dros byth.”
14 Yna tra oeddent i gyd yn sefyll, trodd y brenin atynt a bendithio holl gynulleidfa Israel.
15 Dywedodd, “Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a gyflawnodd â'i law yr hyn a addawodd â'i enau i'm tad Dafydd, pan ddywedodd,
16 ‘Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o'r Aifft, ni ddewisais ddinas ymhlith holl lwythau Israel i adeiladu ynddi dŷ i'm henw fod yno; ond dewisais Jerwsalem i'm henw fod yno, a dewisais Ddafydd i fod yn ben ar fy mhobl Israel.’
17 Yr oedd ym mryd fy nhad Dafydd adeiladu tŷ i enw ARGLWYDD Dduw Israel,
18 ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Yr oedd yn dy fryd adeiladu tŷ i'm henw, a da oedd dy fwriad,