29 Bydded dy lygaid, nos a dydd, ar y tŷ y dywedaist amdano, ‘Fy enw a fydd yno’, a gwrando'r weddi y bydd dy was yn ei gweddïo tua'r lle hwn.
30 Gwrando hefyd ar ddeisyfiad dy was a'th bobl Israel pan fyddant yn gweddïo tua'r lle hwn. Gwrando yn y nef, lle'r wyt yn preswylio, ac o glywed, maddau.
31 “Os bydd rhywun wedi troseddu yn erbyn rhywun arall ac yn gorfod cymryd llw, a'i dyngu gerbron dy allor yn y tŷ hwn,
32 gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th bobl drwy gondemnio'r drwgweithredwr yn ôl ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn ôl ei gyfiawnder.
33 “Os trechir dy bobl Israel gan y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt edifarhau a chyffesu dy enw, a gweddïo ac erfyn arnat yn y tŷ hwn,
34 gwrando di yn y nef a maddau bechod dy bobl Israel ac adfer hwy i'r tir a roddaist i'w hynafiaid.
35 “Os bydd y nefoedd wedi cau, a'r glaw yn pallu, am iddynt bechu yn d'erbyn, ac yna iddynt weddïo tua'r lle hwn a chyffesu dy enw ac edifarhau am eu pechod oherwydd i ti eu cosbi,