45 gwrando di yn y nef ar eu gweddi a'u hymbil, a chynnal eu hachos.
46 “Os pechant yn dy erbyn—oherwydd nid oes neb nad yw'n pechu—a thithau'n digio wrthynt ac yn eu darostwng i'w gelynion a'u caethgludo i wlad y gelyn, boed bell neu agos,
47 ac yna iddynt ystyried yn y wlad lle caethgludwyd hwy, ac edifarhau a deisyf arnat o wlad eu caethiwed â'r geiriau, ‘Yr ydym wedi pechu a throseddu a gwneud drygioni’,
48 ac yna dychwelyd atat â'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad y gelynion sydd wedi eu caethgludo, a gweddïo arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tŷ a godais i'th enw,
49 gwrando di, yn y nef lle'r wyt yn preswylio, ar eu gweddi a'u deisyfiad, a chynnal eu hachos.
50 A maddau i'th bobl a bechodd yn d'erbyn am eu holl droseddu yn d'erbyn; rho iddynt ennyn trugaredd yng nghalon y rhai a'u caethgludodd.
51 Oherwydd dy bobl a'th etifeddiaeth ydynt, gan mai ti a ddaeth â hwy allan o'r Aifft o ganol y ffwrnais haearn.