54 Wedi i Solomon orffen cyflwyno i'r ARGLWYDD yr holl weddi ac ymbil yma a'i ddwylo yn ymestyn tua'r nef, cododd o benlinio gerbron allor yr ARGLWYDD,
55 a sefyll i fendithio holl gynulleidfa Israel â llais uchel, a dweud:
56 “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a roddodd orffwystra i'w bobl Israel yn hollol fel y dywedodd. Ni fethodd yr un gair o'i holl addewid ddaionus a fynegodd trwy ei was Moses.
57 Bydded yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel y bu gyda'n hynafiaid ni; na fydded iddo'n gwrthod na'n gadael.
58 Bydded inni droi ein calonnau tuag ato, a cherdded yn ei holl ffyrdd a chadw ei orchmynion, ei ordinhadau a'i farnedigaethau, a orchmynnodd i'n hynafiaid.
59 Bydded fy ngeiriau hyn, a weddïais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos at yr ARGLWYDD ein Duw ddydd a nos, fel y bo iddo gynnal achos ei was ac achos ei bobl Israel yn ôl yr angen,
60 er mwyn i holl bobloedd y byd wybod mai'r ARGLWYDD sydd Dduw ac nad oes arall.