1 Cronicl 1 BCN

O Adda hyd Abraham

1 Adda, Seth, Enos,

2 Cenan, Mahalalel, Jered,

3 Enoch, Methwsela, Lamech,

4 Noa, Sem, Cham a Jaffeth.

5 Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, Tiras.

6 Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, Togarma.

7 Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Chittim, Dodanim.

8 Meibion Cham: Cus, Misraim, Put, Canaan.

9 Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan.

10 Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear.

11 Misraim oedd tad Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim,

12 Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y tarddodd y Philistiaid ohonynt.

13 Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth,

14 a'r Jebusiaid, yr Amoriaid, y Girgasiaid,

15 yr Hefiaid, yr Arciaid, y Siniaid,

16 yr Arfadiaid, y Semaniaid a'r Hamathiaid.

17 Meibion Sem: Elam, Assur, Arffacsad, Lud, Aram, Us, Hul, Gether, Mesech.

18 Arffacsad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber.

19 I Heber y ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd.

20 Joctan oedd tad Almodad, Seleff, Hasar-mafeth, Jera,

21 Hadoram, Usal, Dicla,

22 Ebal, Abimael, Seba,

23 Offir, Hafila, Jobab; yr oedd y rhain i gyd yn feibion Joctan.

24 Sem, Arffacsad, Sela,

25 Heber, Peleg, Reu,

26 Serug, Nachor, Tera,

27 Abram, sef Abraham.

Disgynyddion Ismael

28 Meibion Abraham: Isaac ac Ismael,

29 a dyma eu cenedlaethau: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, yna Cedar, Adbeel, Mibsam,

30 Misma, Duma, Massa, Hadad, Tema,

31 Jetur, Naffis, Cedema. Dyma feibion Ismael.

32 Yr oedd Cetura, gordderchwraig Abraham, yn fam i Simran, Jocsan, Medan, Midian, Ibac, Sua. Meibion Jocsan: Seba a Dedan.

33 Meibion Midian: Effa, Effer, Enoch, Abida, Eldaa; yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura.

Disgynyddion Esau a Thrigolion Gwreiddiol Edom

34 Abraham oedd tad Isaac. Meibion Isaac: Esau ac Israel.

35 Meibion Esau: Eliffas, Reuel, Jeus, Jalam, Cora.

36 Meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffi, Gatam, Cenas, Timna, Amalec.

37 Meibion Reuel: Nahath, Sera, Samma, Missa.

38 Meibion Seir: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana, Dison, Eser, Disan.

39 Meibion Lotan: Hori, Homam; a chwaer Lotan oedd Timna.

40 Meibion Sobal: Alïan, Manahath, Ebal, Seffi, Onam. Meibion Sibeon: Aia ac Ana.

41 Mab Ana: Dison. Meibion Dison: Amram, Esban, Ithran, Ceran.

42 Meibion Eser: Bilhan, Safan, Jacan. Meibion Dison: Us ac Aran.

Brenhinoedd Edom

43 Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom cyn i'r Israeliaid gael brenin: Bela fab Beor; enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.

44 Bu farw Bela, a theyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.

45 Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.

46 Bu farw Husam, a theyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le; ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab, ac Afith oedd enw ei ddinas.

47 Bu farw Hadad, a theyrnasodd Samla o Masreca yn ei le.

48 Bu farw Samla, a theyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le.

49 Bu farw Saul, a theyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le.

50 Bu farw Baal-hanan, a theyrnasodd Hadad yn ei le, a Pai oedd enw ei ddinas. Mehetabel ferch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig.

51 Bu farw Hadad; yna daeth penaethiaid ar Edom: y penaethiaid Timna, Alia, Jetheth,

52 Aholibama, Ela, Pinon,

53 Cenas, Teman, Mibsar,

54 Magdiel, Iram; y rhain oedd penaethiaid Edom.

Penodau

1 2 3 4 5 6