1 Cronicl 2 BCN

Disgynyddion Jwda

1 Dyma feibion Israel: Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Sabulon,

2 Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad ac Aser.

3 Meibion Jwda: Er, Onan a Sela. Mam y tri oedd Bathsua y Ganaanëes. Ond pechodd Er, cyntafanedig Jwda, yn erbyn yr ARGLWYDD, a lladdodd yr ARGLWYDD ef.

4 Yr oedd Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda, yn fam i'w feibion Phares a Sera; pump o feibion i gyd oedd gan Jwda.

5 Meibion Phares: Hesron a Hamul.

6 Meibion Sera: Simri, Ethan, Heman, Calcol, a Dara, pump i gyd.

7 Mab Carmi: Achar, yr un a flinodd Israel trwy dwyllo gyda'r diofryd.

8 Mab Ethan: Asareia.

Llinach Dafydd

9 Meibion Hesron: ganwyd iddo Jerahmeel, Ram, Celubai.

10 Ram oedd tad Amminadab; Amminadab oedd tad Nahson, pennaeth tylwyth Jwda;

11 Nahson oedd tad Salma; Salma oedd tad Boas;

12 Boas oedd tad Obed; ac Obed oedd tad Jesse;

13 Jesse oedd tad Eliab, ei gyntafanedig, Abinadab yn ail, Simma yn drydydd,

14 Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,

15 Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed,

16 a'u chwiorydd hwy, Serfia ac Abigail. Meibion Serfia: Abisai, Joab, Asahel, tri.

17 Abigail oedd mam Amasa, a'i dad ef oedd Jether yr Ismaeliad.

Disgynyddion Hesron

18 Yr oedd Asuba, gwraig Caleb fab Hesron, yn fam i Jerioth, ac i Jeser, Sohab ac Adron.

19 Pan fu farw Asuba cymerodd Caleb Effrata yn wraig iddo; hi oedd mam Hur.

20 Hur oedd tad Uri, ac Uri oedd tad Besalel.

21 Wedi hynny aeth Hesron i mewn at ferch Machir tad Gilead, a'i phriodi ac yntau'n drigain oed; hi oedd mam Segub.

22 Segub oedd tad Jair, a oedd yn berchen ar dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead.

23 Fe gymerodd oddi ar Gesur ac Aram Hafoth-jair, a Chenath a'i phentrefi, sef trigain o ddinasoedd. Yr oedd y rhain i gyd yn perthyn i feibion Machir tad Gilead.

24 Ar ôl marw Hesron, priododd Caleb Effrata, gwraig ei dad Hesron, a hi oedd mam ei fab Ashur, tad Tecoa.

Disgynyddion Jerahmeel

25 Meibion Jerahmeel, cyntafanedig Hesron: Ram yr hynaf, Buna, Oren, Osem, Aheia.

26 Yr oedd gan Jerahmeel wraig arall o'r enw Atara; hi oedd mam Onam.

27 Meibion Ram, cyntafanedig Jerahmeel: Maas, Jamin, Ecer.

28 Meibion Onam: Sammai a Jada. Meibion Sammai: Nadab ac Abisur.

29 Enw gwraig Abisur oedd Abihail; hi oedd mam Aban a Molid.

30 Meibion Nadab: Seled ac Appaim; a bu farw Seled yn ddi-blant.

31 Mab Appaim: Isi. Mab Isi: Sesan. Mab Sesan: Alai.

32 Meibion Jada, brawd Sammai: Jether a Jonathan; a bu farw Jether yn ddi-blant.

33 Meibion Jonathan: Peleth a Sasa. Y rhain oedd meibion Jerahmeel.

34 Nid oedd gan Sesan feibion, dim ond merched. Yr oedd ganddo was o Eifftiad o'r enw Jarha,

35 ac fe roddodd Sesan ei ferch yn wraig iddo. Hi oedd mam Attai.

36 Attai oedd tad Nathan, a Nathan oedd tad Sabad.

37 Sabad oedd tad Efflal, Efflal oedd tad Obed,

38 Obed oedd tad Jehu, Jehu oedd tad Asareia,

39 Asareia oedd tad Heles, Heles oedd tad Eleasa,

40 Eleasa oedd tad Sisamai, Sisamai oedd tad Salum,

41 Salum oedd tad Jecameia, Jecameia oedd tad Elisama.

Disgynyddion Caleb

42 Meibion Caleb brawd Jerahmeel: Mesa, ei gyntafanedig, tad Siff, a'i fab Maresa, tad Hebron.

43 Meibion Hebron: Cora, Tappua, Recem, Sema.

44 Sema oedd tad Raham, tad Jorcoam; a Recem oedd tad Sammai.

45 Mab Sammai oedd Maon, a Maon oedd tad Beth-sur.

46 Effa, gordderchwraig Caleb, oedd mam Haran, Mosa, Gases; a Haran oedd tad Gases.

47 Meibion Jahdai: Regem, Jotham, Gesan, Pelet, Effa, Saaff.

48 Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, oedd mam Seber a Tirhana.

49 Hi hefyd oedd mam Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena a Gibea; merch Caleb oedd Achsa.

50 Y rhain oedd meibion Caleb. Meibion Hur, cyntafanedig Effrata: Sobal tad Ciriath-jearim,

51 Salma tad Bethlehem, Hareth tad Beth-gader.

52 Meibion Sobal tad Ciriath-jearim: Haroe, hanner y Manahethiaid,

53 sef tylwythau Ciriath-jearim, sef yr Ithriaid, y Puhiaid, y Sumathiaid, y Misraiaid; eu disgynyddion hwy oedd y Sorathiaid a'r Estauliaid.

54 Meibion Salma: Bethlehem, y Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, hanner y Manahethiaid, y Soriaid,

55 tylwythau'r Soffriaid oedd yn Jabes, y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Y rhain oedd y Ceniaid, disgynyddion Hemath tad tylwyth Rechab.

Penodau

1 2 3 4 5 6