1 Cronicl 3 BCN

Disgynyddion y Brenin Dafydd

1 Dyma feibion Dafydd. Ganwyd iddo yn Hebron: y cyntafanedig, Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles;

2 y trydydd, Absalom, mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur, y pedwerydd, Adoneia, mab Haggith;

3 y pumed, Seffateia, o Abital; y chweched, Ithream, o'i wraig Egla.

4 Ganwyd y chwech yma iddo yn Hebron, lle bu'n teyrnasu am saith mlynedd a chwe mis.

5 Teyrnasodd yn Jerwsalem am dair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yno fe anwyd y rhain iddo: Simea, Sobab, Nathan a Solomon; Bathsua ferch Ammiel oedd mam y pedwar.

6 Hefyd naw arall, sef Ibhar, Elisama, Eliffelet,

7 Noga, Neffeg, Jaffia,

8 Elisama, Eliada, Eliffelet, naw.

9 Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd; Tamar oedd eu chwaer.

Disgynyddion y Brenin Solomon

10 Rehoboam oedd mab Solomon; Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; Jehosaffat ei fab yntau;

11 Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;

12 Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;

13 Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;

14 Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau.

15 Meibion Joseia: Johanan, y cyntafanedig; yr ail, Joacim; y trydydd, Sedeceia; y pedwerydd, Salum.

16 Meibion Joacim: Jechoneia a Sedeceia.

Disgynyddion y Brenin Jechoneia

17 Meibion Jechoneia'r carcharor: Salathiel,

18 Malciram, Pedaia, Senasar, Jecameia, Hosama, Nedabeia.

19 Meibion Pedaia: Sorobabel a Simei. Meibion Sorobabel: Mesulam a Hananeia; Selomith oedd eu chwaer hwy,

20 ac yna Hasuba, Ohel, Berecheia, Hasadeia, Jusab-hesed, pump.

21 Meibion Hananeia: Pelatia a Jesaia. Meibion Reffaia: Arnan, Obadeia, Sechaneia.

22 Mab Sechaneia: Semaia. Meibion Semaia: Hattus, Igal, Bareia, Nearia, Saffat, chwech.

23 Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, Asricam, tri.

24 Meibion Elioenai: Hodaia, Eliasib, Pelaia, Accub, Johanan, Dalaia, Anani, saith.

Penodau

1 2 3 4 5 6