1 Cronicl 4 BCN

Disgynyddion Jwda

1 Meibion Jwda: Phares, Hesron, Carmi, Hur, Sobal.

2 Reaia fab Sobal oedd tad Jahath; a Jahath oedd tad Ahumai a Lahad. Dyma dylwythau'r Sorathiaid.

3 Meibion Etam: Jesreel, Isma, Idbas; enw eu chwaer oedd Haselelponi.

4 Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Husa. Y rhain oedd meibion Hur, cyntafanedig Effrata, tad Bethlehem.

5 Yr oedd gan Asur tad Tecoa ddwy wraig, Hela a Naara.

6 Naara oedd mam Ahusam, Heffer, Temeni, Hahastari; y rhain oedd meibion Naara.

7 Meibion Hela: Sereth, Jesoar, Ethnan.

8 Cos oedd tad Anub, Sobeba, a thylwythau Aharhel fab Harum.

9 Yr oedd Jabes yn bwysicach na'i frodyr; galwodd ei fam ef yn Jabes am iddi, meddai, esgor arno mewn poen.

10 Gweddïodd Jabes ar Dduw Israel, a dweud, “O na fyddit yn fy mendithio ac yn ehangu fy nherfynau! O na fyddai dy law gyda mi i'm hamddiffyn oddi wrth niwed rhag fy mhoeni!” Rhoddodd Duw ei ddymuniad iddo.

Achresi Eraill

11 Celub brawd Sua oedd tad Mehir, tad Eston.

12 Eston oedd tad Beth-raffa, Pasea, Tehinna tad Irnahas. Y rhain oedd dynion Recha.

13 Meibion Cenas: Othniel a Seraia; a mab Othniel: Hathath.

14 Meonothai oedd tad Offra; Seraia oedd tad Joab, tad Geharashim, canys crefftwyr oeddent.

15 Meibion Caleb fab Jeffunne: Iru, Ela, Naam; mab Ela: Cenas.

16 Meibion Jehaleleel: Siff, Siffa, Tiria, Asareel.

17 Meibion Esra: Jether, Mered, Effer a Jalon. Bitheia, merch Pharo, gwraig Mered, oedd mam Miriam, Sammai, ac Isba tad Estemoa.

18 Ei wraig Jehwdia oedd mam Jered tad Gedor, Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa.

19 Meibion gwraig Hodeia, chwaer Naham, oedd tad Ceila y Garmiad, a thad Estemoa y Maachathiad.

20 Meibion Simon: Amnon, Rinna, Ben-hanan, Tilon. Meibion Isi: Soheth a Ben-soheth.

21 Meibion Sela fab Jwda: Er tad Lecha, Laada tad Maresa (tylwythau'r rhai o Beth-asbea oedd yn gwneud lliain main);

22 Jocim, dynion Choseba, a Joas a Saraff, a fu'n arglwyddiaethu ar Moab cyn dychwelyd i Fethlehem. (Y mae'r hanesion hyn yn hen.)

23 Y rhain oedd y crochenyddion oedd yn byw yn Netaim a Gedera; yr oeddent yn byw yno yng ngwasanaeth y brenin.

Disgynyddion Simeon

24 Meibion Simeon: Nemuel, Jamin, Jarib, Sera, Saul;

25 Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.

26 Meibion Misma: Hamuel, Saccur, Simei.

27 Yr oedd gan Simei un ar bymtheg o feibion a chwech o ferched, ond ychydig o feibion oedd gan ei frodyr; er hynny nid oedd eu holl deulu hwy wedi cynyddu cymaint â meibion Jwda.

28 Yr oeddent yn byw yn Beerseba, Molada, Hasar-sual,

29 Bilha, Esem, Tolad,

30 Bethuel, Horma, Siclag,

31 Beth-marcaboth, Hasar-susim, Beth-birei a Saaraim. Y rhain oedd eu dinasoedd nes i Ddafydd ddod yn frenin.

32 Eu trefi oedd Etam, Ain, Rimmon, Tochen, Asan; pump i gyd.

33 Ac yr oedd ganddynt bentrefi o gwmpas y trefi hyn hyd at Baal. Yma yr oeddent yn byw, ac yr oeddent yn cadw rhestr o'u hachau:

34 Mesobab, Jamlech, Josa fab Amaseia,

35 Joel; Jehu fab Josibia, fab Seraia, fab Asiel;

36 Elioenai, Jaacoba, Jesohaia, Asaia, Adiel, Jesimiel, Benaia;

37 Sisa fab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia.

38 Aeth y rhai a enwyd uchod yn benaethiaid eu teuluoedd, ac fe gynyddodd eu tylwyth yn fawr iawn.

39 Daethant i fwlch Gedor, i'r dwyrain o'r dyffryn, i geisio porfa i'w defaid.

40 Fe gawsant borfa fras a da mewn gwlad eang, dawel a heddychol; oherwydd rhai o dylwyth Ham oedd yn byw yno o'r blaen.

41 Yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, daeth y rhai a restrwyd ac ymosod ar bebyll Ham a'r pentrefi oedd ganddynt yno, a'u dinistrio'n llwyr hyd heddiw. Daethant i fyw yno yn eu lle am fod yno borfa i'w praidd.

42 Aeth pum cant ohonynt, o lwyth Simeon, i Fynydd Seir, ac yn eu harwain yr oedd Pelatia, Nearia, Reffaia ac Ussiel, meibion Isi.

43 Gorchfygasant weddill yr Amaleciaid, ac y maent yn dal i fyw yno hyd heddiw.

Penodau

1 2 3 4 5 6