42 Meibion Eser: Bilhan, Safan, Jacan. Meibion Dison: Us ac Aran.
43 Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom cyn i'r Israeliaid gael brenin: Bela fab Beor; enw ei ddinas ef oedd Dinhaba.
44 Bu farw Bela, a theyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le.
45 Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le.
46 Bu farw Husam, a theyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le; ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab, ac Afith oedd enw ei ddinas.
47 Bu farw Hadad, a theyrnasodd Samla o Masreca yn ei le.
48 Bu farw Samla, a theyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le.