19 Pan fu farw Asuba cymerodd Caleb Effrata yn wraig iddo; hi oedd mam Hur.
20 Hur oedd tad Uri, ac Uri oedd tad Besalel.
21 Wedi hynny aeth Hesron i mewn at ferch Machir tad Gilead, a'i phriodi ac yntau'n drigain oed; hi oedd mam Segub.
22 Segub oedd tad Jair, a oedd yn berchen ar dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead.
23 Fe gymerodd oddi ar Gesur ac Aram Hafoth-jair, a Chenath a'i phentrefi, sef trigain o ddinasoedd. Yr oedd y rhain i gyd yn perthyn i feibion Machir tad Gilead.
24 Ar ôl marw Hesron, priododd Caleb Effrata, gwraig ei dad Hesron, a hi oedd mam ei fab Ashur, tad Tecoa.
25 Meibion Jerahmeel, cyntafanedig Hesron: Ram yr hynaf, Buna, Oren, Osem, Aheia.