19 Meibion gwraig Hodeia, chwaer Naham, oedd tad Ceila y Garmiad, a thad Estemoa y Maachathiad.
20 Meibion Simon: Amnon, Rinna, Ben-hanan, Tilon. Meibion Isi: Soheth a Ben-soheth.
21 Meibion Sela fab Jwda: Er tad Lecha, Laada tad Maresa (tylwythau'r rhai o Beth-asbea oedd yn gwneud lliain main);
22 Jocim, dynion Choseba, a Joas a Saraff, a fu'n arglwyddiaethu ar Moab cyn dychwelyd i Fethlehem. (Y mae'r hanesion hyn yn hen.)
23 Y rhain oedd y crochenyddion oedd yn byw yn Netaim a Gedera; yr oeddent yn byw yno yng ngwasanaeth y brenin.
24 Meibion Simeon: Nemuel, Jamin, Jarib, Sera, Saul;
25 Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.