38 Aeth y rhai a enwyd uchod yn benaethiaid eu teuluoedd, ac fe gynyddodd eu tylwyth yn fawr iawn.
39 Daethant i fwlch Gedor, i'r dwyrain o'r dyffryn, i geisio porfa i'w defaid.
40 Fe gawsant borfa fras a da mewn gwlad eang, dawel a heddychol; oherwydd rhai o dylwyth Ham oedd yn byw yno o'r blaen.
41 Yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, daeth y rhai a restrwyd ac ymosod ar bebyll Ham a'r pentrefi oedd ganddynt yno, a'u dinistrio'n llwyr hyd heddiw. Daethant i fyw yno yn eu lle am fod yno borfa i'w praidd.
42 Aeth pum cant ohonynt, o lwyth Simeon, i Fynydd Seir, ac yn eu harwain yr oedd Pelatia, Nearia, Reffaia ac Ussiel, meibion Isi.
43 Gorchfygasant weddill yr Amaleciaid, ac y maent yn dal i fyw yno hyd heddiw.