4 Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Husa. Y rhain oedd meibion Hur, cyntafanedig Effrata, tad Bethlehem.
5 Yr oedd gan Asur tad Tecoa ddwy wraig, Hela a Naara.
6 Naara oedd mam Ahusam, Heffer, Temeni, Hahastari; y rhain oedd meibion Naara.
7 Meibion Hela: Sereth, Jesoar, Ethnan.
8 Cos oedd tad Anub, Sobeba, a thylwythau Aharhel fab Harum.
9 Yr oedd Jabes yn bwysicach na'i frodyr; galwodd ei fam ef yn Jabes am iddi, meddai, esgor arno mewn poen.
10 Gweddïodd Jabes ar Dduw Israel, a dweud, “O na fyddit yn fy mendithio ac yn ehangu fy nherfynau! O na fyddai dy law gyda mi i'm hamddiffyn oddi wrth niwed rhag fy mhoeni!” Rhoddodd Duw ei ddymuniad iddo.