1 Dyma feibion Reuben, cyntafanedig Israel. (Ef yn wir oedd y cyntafanedig, ond am iddo halogi gwely ei dad rhoddwyd ei enedigaeth-fraint i feibion Joseff, fab Israel,
2 ac felly ni restrir yr achau yn ôl yr enedigaeth-fraint. Er bod Jwda wedi rhagori ar ei frodyr, ac arweinydd wedi tarddu ohono, Joseff a gafodd yr enedigaeth-fraint.)
3 Meibion Reuben, cyntafanedig Israel: Enoch, Palu, Hesron, Carmi.
4 Meibion Joel: Semaia ei fab, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau,
5 Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau,
6 Beera ei fab yntau a gaethgludodd Tiglath-pileser brenin Asyria; ef oedd pennaeth y Reubeniaid.