10 Yn ystod teyrnasiad Saul, aethant i ryfel yn erbyn yr Hagariaid a'u trechu, a byw yn eu pebyll trwy holl ddwyrain Gilead.
11 Dyma feibion Gad oedd yn byw nesaf atynt yng ngwlad Basan hyd at Salcha: Joel y pennaeth,
12 Saffam yr ail, Jaanai, Saffat.
13 Eu brodyr hwy o dŷ eu hynafiaid: Michael, Mesulam, Seba, Jorai, Jacan, Sïa, Heber, saith.
14 Meibion Abihail: Ben-huri, Ben-jaroa, Ben-gilead, Ben-michael, Ben-jesisai, Ben-jahdo, Ben-bus.
15 Ahi fab Abdiel, fab Guni, oedd y penteulu.
16 Yr oeddent hwy yn byw yn Gilead ac ym mhentrefi Basan, a thrwy holl gytir Saron o un terfyn i'r llall.