23 Yr oedd hanner llwyth Manasse yn byw yn y tir rhwng Basan, Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon, ac yr oedd llawer ohonynt.
24 Y rhain oedd eu pennau-teuluoedd: Effer, Isi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, Jadiel; gwŷr blaenllaw ac enwog oedd y pennau-teuluoedd hyn.
25 Ond buont yn anffyddlon i Dduw eu hynafiaid, a phuteinio gyda duwiau pobl y wlad yr oedd Duw wedi eu dinistrio o'u blaenau.
26 Felly anogodd Duw Israel Pul, hynny yw Tiglath-pileser brenin Asyria, i fynd â'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse i gaethglud. Aeth yntau â hwy i Hala, Habor, Hara ac afon Gosan, ac yno y maent hyd heddiw.