6 Beera ei fab yntau a gaethgludodd Tiglath-pileser brenin Asyria; ef oedd pennaeth y Reubeniaid.
7 Dyma'i frodyr yn ôl eu teuluoedd ac yn ôl achau eu cenedlaethau: Jeiel y pennaeth, Sechareia, Bela fab Asas, fab Sema, fab Joel.
8 Bu'r rhain yn byw yn Aroer a chyn belled â Nebo a Baal-meon.
9 Tua'r dwyrain yr oedd eu tir yn cyrraedd at ymylon yr anialwch sy'n ymestyn o afon Ewffrates, oherwydd yr oedd eu hanifeiliaid wedi cynyddu yng ngwlad Gilead.
10 Yn ystod teyrnasiad Saul, aethant i ryfel yn erbyn yr Hagariaid a'u trechu, a byw yn eu pebyll trwy holl ddwyrain Gilead.
11 Dyma feibion Gad oedd yn byw nesaf atynt yng ngwlad Basan hyd at Salcha: Joel y pennaeth,
12 Saffam yr ail, Jaanai, Saffat.