46 fab Amsi, fab Bani, fab Samer,
47 fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi.
48 Yr oedd eu brodyr y Lefiaid yn gyfrifol am holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw.
49 Ond Aaron a'i feibion oedd yn aberthu ar allor y poethoffrwm ac ar allor yr arogldarth, sef holl waith y cysegr sancteiddiaf, ac yn gwneud cymod dros Israel yn union fel y gorchmynnodd Moses gwas Duw.
50 Dyma feibion Aaron: Eleasar ei fab, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau,
51 Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau,
52 Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau,