50 Dyma feibion Aaron: Eleasar ei fab, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau,
51 Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau,
52 Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau,
53 Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.
54 Dyma lle'r oeddent yn byw y tu mewn i ffiniau eu tiriogaeth: i deulu'r Cohathiaid o feibion Aaron (am fod y coelbren wedi syrthio arnynt hwy)
55 rhoesant Hebron yng ngwlad Jwda a'r cytir o'i hamgylch;
56 ond rhoesant feysydd y ddinas a'i phentrefi i Caleb fab Jeffunne.