58 Hilen, Debir, Asan,
59 a Beth-semes, pob un gyda'i chytir;
60 Ac o lwyth Benjamin rhoesant Geba, Alemeth ac Anathoth, pob un gyda'i chytir; cyfanswm o dair dinas ar ddeg yn ôl eu teuluoedd.
61 I weddill teuluoedd meibion Cohath rhoesant trwy goelbren ddeg dinas o hanner llwyth Manasse.
62 I feibion Gersom yn ôl eu teuluoedd rhoesant dair ar ddeg o ddinasoedd o lwythau Issachar, Aser, Nafftali, Manasse yn Basan.
63 I feibion Merari yn ôl eu teuluoedd, o lwythau Reuben, Gad, Sabulon, rhoesant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.
64 Rhoes meibion Israel i'r Lefiaid y dinasoedd hyn, pob un gyda'i chytir.