1 O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl!Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw,a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.
2 Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos,a dagrau ar ei gruddiau;nid oes ganddi neb i'w chysuroo blith ei holl gariadon;y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu,ac wedi troi'n elynion iddi.
3 Aeth Jwda i gaethglud mewn trallodac mewn gorthrwm mawr;y mae'n byw ymysg y cenhedloedd,ond heb gael lle i orffwys;y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddydyng nghanol ei gofidiau.
4 Y mae ffyrdd Seion mewn galaram nad oes neb yn dod i'r gwyliau;y mae ei holl byrth yn anghyfannedd,a'i hoffeiriaid yn griddfan;y mae ei merched ifainc yn drallodus,a hithau mewn chwerwder.
5 Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni,a llwyddodd ei gelynion,oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arnio achos amlder ei throseddau;y mae ei phlant wedi mynd ymaithyn gaethion o flaen y gelyn.