Galarnad 4 BCN

Jerwsalem ar ôl ei Chwymp

1 O fel y pylodd yr aur,ac y newidiodd yr aur coeth!Gwasgarwyd meini'r cysegrym mhen pob stryd.

2 Plant gwerthfawr Seion,a oedd yn werth eu pwysau mewn aur,yn awr yn cael eu hystyried fel llestri pridd,gwaith dwylo crochenydd!

3 Y mae hyd yn oed siacaliaid yn dinoethi'r froni roi sugn i'w hepil,ond y mae merch fy mhobl wedi mynd yn greulon,fel estrys yn yr anialwch.

4 Y mae tafod y plentyn sugnoyn glynu wrth ei daflod o syched;y mae'r plant yn cardota bara,heb neb yn ei roi iddynt.

5 Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithionyn ddiymgeledd yn y strydoedd,a'r rhai a fagwyd mewn ysgarladyn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.

6 Y mae trosedd merch fy mhoblyn fwy na phechod Sodom,a ddymchwelwyd yn ddisymwthheb i neb godi llaw yn ei herbyn.

7 Yr oedd ei thywysogion yn lanach nag eira,yn wynnach na llaeth;yr oedd eu cyrff yn gochach na chwrel,a'u pryd fel saffir.

8 Ond aeth eu hwynepryd yn dduach na pharddu,ac nid oes neb yn eu hadnabod yn y strydoedd;crebachodd eu croen am eu hesgyrn,a sychodd fel pren.

9 Yr oedd y rhai a laddwyd â'r cleddyf yn fwy ffodusna'r rhai oedd yn marw o newyn,oherwydd yr oeddent hwy yn dihoeni,wedi eu hamddifadu o gynnyrch y meysydd.

10 Yr oedd gwragedd tynergalon â'u dwylo eu hunainyn berwi eu plant,i'w gwneud yn fwyd iddynt eu hunain,pan ddinistriwyd merch fy mhobl.

11 Bwriodd yr ARGLWYDD ei holl lid,a thywalltodd angerdd ei ddig;cyneuodd dân yn Seion,ac fe ysodd ei sylfeini.

12 Ni chredai brenhinoedd y ddaear,na'r un o drigolion y byd,y gallai ymosodwr neu elynfynd i mewn trwy byrth Jerwsalem.

13 Ond fe ddigwyddodd hyn oherwydd pechodau ei phroffwydia chamweddau ei hoffeiriaid,a dywalltodd waed y cyfiawn yn ei chanol hi.

14 Yr oeddent yn crwydro fel deillion yn y strydoedd,wedi eu halogi â gwaed,fel na feiddiai neb gyffwrdd â'u dillad.

15 “Cadwch draw, maent yn aflan,”—dyna a waeddai pobl—“cadwch draw, cadwch draw, peidiwch â'u cyffwrdd!”Yn wir fe ffoesant a mynd ar grwydr,a dywedwyd ymysg y cenhedloedd,“Ni chânt aros yn ein plith mwyach.”

16 Yr ARGLWYDD ei hun a'u gwasgarodd,heb edrych arnynt mwyach;ni roddwyd anrhydedd i'r offeiriaid,na ffafr i'r henuriaid.

17 Yr oedd ein llygaid yn palluwrth edrych yn ofer am gymorth;buom yn disgwyl a disgwylwrth genedl na allai achub.

18 Yr oeddent yn gwylio pob cam a gymerem,fel na allem fynd allan i'n strydoedd.Yr oedd ein diwedd yn agos, a'n dyddiau'n dod i ben;yn wir fe ddaeth ein diwedd.

19 Yr oedd ein herlidwyr yn gyflymachnag eryrod yr awyr;yr oeddent yn ein herlid ar y mynyddoedd,ac yn gwylio amdanom yn y diffeithwch.

20 Anadl ein bywyd, eneiniog yr ARGLWYDD,a ddaliwyd yn eu maglau,a ninnau wedi meddwl mai yn ei gysgod efy byddem yn byw'n ddiogel ymysg y cenhedloedd.

21 Gorfoledda a bydd lawen, ferch Edom,sy'n preswylio yng ngwlad Us!Ond fe ddaw'r cwpan i tithau hefyd;byddi'n feddw ac yn dy ddinoethi dy hun.

22 Daeth terfyn ar dy gosb, ferch Seion;ni chei dy gaethgludo eto.Ond fe ddaw dy gosb arnat ti, ferch Edom;fe ddatgelir dy bechod.

Penodau

1 2 3 4 5