13 Anfonodd dân o'r uchelder,a threiddiodd i'm hesgyrn;gosododd rwyd i'm traed,a'm troi'n ôl;gwnaeth fi yn ddiffaithac yn gystuddiol trwy'r dydd.
14 Clymwyd fy nhroseddau amdanaf;plethwyd hwy â'i law ei hun;gosododd ei iau ar fy ngwddf,ac ysigodd fy nerth;rhoddodd yr Arglwydd fi yng ngafael rhaina allaf godi yn eu herbyn.
15 Diystyrodd yr Arglwyddyr holl ryfelwyr oedd ynof;galwodd ar fyddin i ddod yn f'erbyn,i ddifetha fy ngwŷr ifainc;fel y sethrir grawnwin y sathrodd yr Arglwyddy forwyn, merch Jwda.
16 O achos hyn yr wyf yn wylo,ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau,oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuroac yn fy nghynnal;y mae fy mhlant wedi eu hanrheithioam fod y gelyn wedi gorchfygu.
17 Estynnodd Seion ei dwylo,ond nid oedd neb i'w chysuro;gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynionamgylchynu Jacob o bob cyfeiriad;yr oedd Jerwsalem wedi myndyn ffieidd-dra yn eu mysg.
18 Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn,ond gwrthryfelais yn erbyn ei air.Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd,ac edrychwch ar fy nolur:aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.
19 Gelwais ar fy nghariadon,ond y maent hwy wedi fy mradychu;trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas,wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.