2 Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos,a dagrau ar ei gruddiau;nid oes ganddi neb i'w chysuroo blith ei holl gariadon;y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu,ac wedi troi'n elynion iddi.
3 Aeth Jwda i gaethglud mewn trallodac mewn gorthrwm mawr;y mae'n byw ymysg y cenhedloedd,ond heb gael lle i orffwys;y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddydyng nghanol ei gofidiau.
4 Y mae ffyrdd Seion mewn galaram nad oes neb yn dod i'r gwyliau;y mae ei holl byrth yn anghyfannedd,a'i hoffeiriaid yn griddfan;y mae ei merched ifainc yn drallodus,a hithau mewn chwerwder.
5 Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni,a llwyddodd ei gelynion,oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arnio achos amlder ei throseddau;y mae ei phlant wedi mynd ymaithyn gaethion o flaen y gelyn.
6 Diflannodd y cyfan o'i hanrhydeddoddi wrth ferch Seion;y mae ei thywysogion fel ewigodsy'n methu cael porfa;y maent wedi ffoi, heb nerth,o flaen yr erlidwyr.
7 Yn nydd ei thrallod a'i chyniy mae Jerwsalem yn cofio'r holl drysorauoedd ganddi yn y dyddiau gynt.Pan syrthiodd ei phobl i ddwylo'r gwrthwynebwyr,heb neb i'w chynorthwyo,edrychodd ei gwrthwynebwyr arnia chwerthin o achos ei dinistr.
8 Pechodd Jerwsalem yn erchyll;am hynny fe aeth yn ffieidd-dra.Y mae pawb oedd yn ei pharchu yn ei dirmyguam iddynt weld ei noethni;y mae hithau'n griddfanac yn troi draw.