8 Pechodd Jerwsalem yn erchyll;am hynny fe aeth yn ffieidd-dra.Y mae pawb oedd yn ei pharchu yn ei dirmyguam iddynt weld ei noethni;y mae hithau'n griddfanac yn troi draw.
9 Yr oedd ei haflendid yng ngodre'i dillad;nid ystyriodd ei thynged.Yr oedd ei chwymp yn arswydus,ac nid oedd neb i'w chysuro.Edrych, O ARGLWYDD, ar fy nhrallod,oherwydd y mae'r gelyn wedi gorchfygu.
10 Estynnodd y gelyn ei lawi gymryd ei holl drysorau;yn wir, gwelodd hi y cenhedloeddyn dod i'w chysegr—rhai yr oeddit ti wedi eu gwaharddyn dod i mewn i'th gynulliad!
11 Yr oedd ei phobl i gyd yn griddfanwrth iddynt chwilio am fara;yr oeddent yn cyfnewid eu trysorau am fwydi'w cynnal eu hunain.Edrych, O ARGLWYDD, a gwêl,oherwydd euthum yn ddirmyg.
12 Onid yw hyn o bwys i chwi sy'n mynd heibio?Edrychwch a gwelwch;a oes gofid fel y gofida osodwyd yn drwm arnaf,ac a ddygodd yr ARGLWYDD arnafyn nydd ei lid angerddol?
13 Anfonodd dân o'r uchelder,a threiddiodd i'm hesgyrn;gosododd rwyd i'm traed,a'm troi'n ôl;gwnaeth fi yn ddiffaithac yn gystuddiol trwy'r dydd.
14 Clymwyd fy nhroseddau amdanaf;plethwyd hwy â'i law ei hun;gosododd ei iau ar fy ngwddf,ac ysigodd fy nerth;rhoddodd yr Arglwydd fi yng ngafael rhaina allaf godi yn eu herbyn.