1 O'r fath dywyllwch a ddygodd yr Arglwyddar ferch Seion yn ei ddig!Bwriodd ogoniant Israelo'r nefoedd i'r llawr,ac ni chofiodd am ei droedfaincyn nydd ei ddicter.
2 Difethodd yr Arglwydd yn ddiarbedholl drigfannau Jacob;yn ei ddigofaint dinistrioddamddiffynfeydd merch Jwda;taflodd i lawr a difwynoddy deyrnas a'i phenaethiaid.
3 Yn angerdd ei ddig torroddgyrn Israel i gyd;tynnodd yn ôl ei ddeheulawwrth i'r gelyn ymosod;llosgodd yn Jacob fel fflam dânyn difa popeth o'i hamgylch.
4 Fel gelyn paratôdd ei fwa,safodd â'i ddeheulaw'n barod,ac fel gwrthwynebwr fe laddoddy cyfan oedd yn ddymunol i'r llygad;tywalltodd ei lid fel tânar babell merch Seion.
5 Y mae'r Arglwydd wedi troi'n elynac wedi difetha Israel;difethodd ei holl balasau,a dinistrio'i hamddiffynfeydd;gwnaeth i alar a gofidgynyddu i ferch Jwda.