11 Dallwyd fy llygaid gan ddagrau;y mae f'ymysgaroedd mewn poen.Yr wyf yn tywallt fy nghalon allano achos dinistr merch fy mhobl,ac am fod plant a babanod yn llewyguyn strydoedd y ddinas.
12 Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau,“Ple cawn ni rawn a gwin?”—wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedigyn strydoedd y ddinas,ac wrth iddynt ymladd am eu bywydym mynwes eu mamau.
13 Beth allaf ei ddweud o'th blaid,a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem?I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur,y forwyn, ferch Seion?Y mae dy ddolur mor ddwfn â'r môr,pwy a all dy iacháu?
14 Yr oedd gweledigaethau dy broffwydiyn gelwyddog a thwyllodrus;ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedder mwyn adfer dy lwyddiant;yr oedd yr oraclau a roddasant itiyn gelwyddog a chamarweiniol.
15 Y mae pob un sy'n mynd heibioyn curo'i ddwylo o'th achos;y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennauar ferch Jerwsalem:“Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch,ac yn llawenydd yr holl ddaear?”
16 Y mae dy holl elynionyn gweiddi'n groch yn dy erbyn,yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd;dywedant, “Yr ydym wedi ei difetha;dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano;yr ydym wedi cael ei weld!”
17 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd;cyflawnodd ei fwriad,a drefnodd ers amser maith,a dinistriodd yn ddiarbed;gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos,a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr.