10 “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“distrywiaf dy feirch o'ch plith,a dinistriaf dy gerbydau.
11 Distrywiaf ddinasoedd dy wlad,a mathraf dy holl geyrydd.
12 Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael,ac ni fydd gennyt ddewiniaid.
13 Distrywiaf dy gerfddelwaua'th golofnau o'ch mysg,a mwyach nid addoli waith dy ddwylo dy hun.
14 Diwreiddiaf y prennau Asera yn eich plith,a dinistriaf dy ddinasoedd.
15 Mewn llid a digofaint fe ddialafar yr holl genhedloedd na fuont yn ufudd.”