3 Felly fe'u gedy hyd amser esgor yr un feichiog,ac yna fe ddychwel y rhai fydd yn weddill yn Israelat eu tylwyth.
4 Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr ARGLWYDD,ac ym mawredd enw'r ARGLWYDD ei Dduw.A byddant yn ddiogel,oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau'r ddaear;
5 ac yna bydd heddwch.Pan ddaw Asyria i'n gwlad,a cherdded hyd ein tir,codwn yn ei erbyn saith o fugeiliaidac wyth o arweinwyr pobl.
6 A bugeiliant Asyria â'r cleddyf,a thir Nimrod â'r cleddyf noeth;fe'n gwaredant oddi wrth Asyriapan ddaw i'n gwlada sarnu'n terfynau.
7 A bydd gweddill Jacob yng nghanol pobloedd lawer,fel gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD,fel cawodydd ar laswellt,nad ydynt yn disgwyl wrth ddyn,nac yn aros am feibion dynion.
8 A bydd gweddill Jacob ymhlith y cenhedloedd,ac yng nghanol pobloedd lawer,fel llew ymysg anifeiliaid y goedwig,fel llew ifanc ymhlith diadelloedd defaid,sydd, wrth fynd heibio, yn mathruac yn malurio, heb neb i waredu.
9 Bydd dy law wedi ei chodi yn erbyn dy wrthwynebwyr,a thorrir ymaith dy holl elynion.