Nehemeia 11 BCN

Y Rhai Oedd yn Byw yn Jerwsalem

1 Daeth arweinwyr y bobl i fyw yn Jerwsalem, ond bwriodd y gweddill o'r bobl goelbren i ddod ag un o bob deg i fyw yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a'r naw arall yn y trefi.

2 Bendithiodd y bobl y rhai a aeth o'u gwirfodd i fyw yn Jerwsalem.

3 Dyma benaethiaid y dalaith, oedd yn byw yn Jerwsalem. Yn nhrefi Jwda yr oedd yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon yn byw, pob un yn ei diriogaeth ei hun.

4 Dyma'r rhai o lwyth Jwda a'r rhai o lwyth Benjamin oedd yn byw yn Jerwsalem: o lwyth Jwda, Athaia fab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel o deulu Peres;

5 a Maaseia fab Baruch, fab Colhose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, fab Siloni.

6 Yr oedd teulu cyfan Peres, oedd yn byw yn Jerwsalem, yn bedwar cant chwe deg ac wyth o ddynion cyfrifol.

7 Y rhain oedd o lwyth Benjamin: Salu fab Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Eseia,

8 a'i frodyr, gwŷr grymus, naw cant dau ddeg ac wyth.

9 Joel fab Sichri oedd yn oruchwyliwr arnynt, a Jwda fab Senua oedd dirprwy arolygwr y ddinas.

10 O'r offeiriaid: Jedaia fab Joiarib (hynny yw, Jachin),

11 Seraia fab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, arolygwr tŷ Dduw,

12 a nifer eu brodyr oedd yn gyfrifol am waith y deml oedd wyth gant dau ddeg a dau; ac Adaia fab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia,

13 a'i frodyr, pennau-teuluoedd, dau gant pedwar deg a dau; ac Amasai, fab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer,

14 a'i frodyr, dynion cyfrifol, cant dau ddeg ac wyth, a Sabdiel fab Haggedolim oedd yn oruchwyliwr arnynt.

15 Ac o'r Lefiaid: Semaia fab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia, fab Bunni;

16 a Sabbethai a Josabad o benaethiaid y Lefiaid oedd yn arolygu'r gwaith o'r tu allan i dŷ Dduw;

17 a Mataneia fab Meica, fab Sabdi, fab Asaff, arweinydd y mawl, oedd yn talu diolch yn ystod y gweddïau, a Bacbuceia, yr ail ymysg ei frodyr, ac Abda fab Sammua, fab Galal, fab Jeduthun.

18 Cyfanswm y Lefiaid yn y ddinas sanctaidd oedd dau gant wyth deg a phedwar.

19 Yr oedd y porthorion oedd yn gwylio'r pyrth, sef Accub, Talmon a'u brodyr, yn gant saith deg a dau.

20 Ac yr oedd y gweddill o'r Israeliaid ac o'r offeiriaid a'r Lefiaid yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth ei hun.

21 Ond yr oedd gweision y deml yn byw ar Offel yng ngofal Siha a Gispa.

22 Goruchwyliwr y Lefiaid yn Jerwsalem, i arolygu gwaith tŷ Dduw, oedd Ussi fab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Meica, o deulu Asaff y cantorion.

23 Oherwydd yr oedd gorchymyn brenhinol ynglŷn â hwy, fod gan y cantorion ddyletswyddau penodol bob dydd.

24 Ac yr oedd Pethaheia fab Mesesabeel o deulu Sera fab Jwda yn cynghori'r brenin ar unrhyw fater yn ymwneud â'r bobl.

Y Rhai Oedd yn Byw yn y Wlad

25 Ynglŷn â'r pentrefi yn y wlad: aeth rhai o lwyth Jwda i fyw yng Ciriath-arba a'i phentrefi, yn Dibon a'i phentrefi, yn Jecabseel a'i phentrefi;

26 yn Jesua, yn Molada, yn Beth-pelet,

27 yn Hasar-sual, yn Beerseba a'i phentrefi;

28 yn Siclag, yn Mechona a'i phentrefi,

29 yn En-rimmon, yn Sora, yn Jarmuth,

30 Sanoa, Adulam a'u pentrefi; yn Lachis a'i meysydd, yn Aseca a'i phentrefi. Yr oeddent yn gwladychu o Beerseba i ddyffryn Hinnom.

31 Rhai o lwyth Benjamin oedd yn byw o Geba ymlaen, yn Michmas, Aia, Bethel a'i phentrefi,

32 Anathoth, Nob, Ananeia,

33 Hasor, Rama, Gittaim,

34 Hadid, Seboim, Nebalat,

35 Lod, ac Ono, dyffryn y crefftwyr.

36 Ac yr oedd rhai o'r Lefiaid yn perthyn i Jwda a rhai i Benjamin.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13