Nehemeia 4 BCN

Nehemeia yn Trechu ei Wrthwynebwyr

1 Pan glywodd Sanbalat ein bod yn ailgodi'r mur, gwylltiodd a ffromi drwyddo.

2 Dechreuodd wawdio'r Iddewon yng ngŵydd ei gymrodyr a byddin Samaria a dweud, “Beth y mae'r Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneud? A adewir llonydd iddynt? A ydynt am aberthu a gorffen y gwaith mewn diwrnod? A ydynt am wneud cerrig o'r pentyrrau rwbel, a hwythau wedi eu llosgi?”

3 A dywedodd Tobeia yr Ammoniad, a oedd yn ei ymyl, “Beth bynnag y maent yn ei adeiladu, dim ond i lwynog ddringo'u mur cerrig, fe'i dymchwel.”

4 Gwrando, O ein Duw, oherwydd y maent yn ein dirmygu. Tro eu gwaradwydd yn ôl ar eu pennau eu hunain, a gwna hwy'n anrhaith mewn gwlad caethiwed.

5 Paid â chuddio eu camwedd na dileu eu pechod o'th ŵydd, oherwydd y maent wedi dy sarhau di gerbron yr adeiladwyr.

6 Felly codasom yr holl fur a'i orffen hyd at ei hanner, oherwydd yr oedd gan y bobl galon i weithio.

7 Ond pan glywodd Sanbalat a Tobeia a'r Arabiaid a'r Ammoniaid a'r Asdodiaid fod atgyweirio muriau Jerwsalem yn mynd rhagddo, a'r bylchau yn dechrau cael eu llenwi, yr oeddent yn ddig iawn,

8 a gwnaethant gynllun gyda'i gilydd i ddod i ryfela yn erbyn Jerwsalem a chreu helbul i ni.

9 Felly bu inni weddïo ar ein Duw o'u hachos, a gosod gwylwyr yn eu herbyn ddydd a nos.

10 Ond dywedodd pobl Jwda, “Pallodd nerth y cludwyr, ac y mae llawer o rwbel; ni allwn byth ailgodi'r mur ein hunain.

11 Y mae'n gwrthwynebwyr wedi dweud, ‘Heb iddynt wybod na gweld, fe awn i'w canol a'u lladd a rhwystro'r gwaith’.”

12 A daeth Iddewon oedd yn byw yn eu hymyl atom i'n rhybuddio ddengwaith y doent yn ein herbyn o bob cyfeiriad.

13 Felly gosodais rai yn y lleoedd isaf y tu ôl i'r mur mewn mannau gwan, a gosodais y bobl fesul teulu gyda'u cleddyfau a'u gwaywffyn a'u bwâu.

14 Wedi imi weld ynglŷn â hyn, euthum i ddweud wrth y pendefigion a'r swyddogion a gweddill y bobl, “Peidiwch â'u hofni; cadwch eich meddwl ar yr ARGLWYDD sy'n fawr ac ofnadwy, ac ymladdwch dros eich pobl, eich meibion a'ch merched, eich gwragedd a'ch cartrefi.”

15 Pan glywodd ein gelynion ein bod yn gwybod am y peth, a bod Duw wedi drysu eu cynlluniau, aethom ni i gyd yn ôl at y mur, bob un at ei waith.

16 Ac o'r dydd hwnnw ymlaen yr oedd hanner fy ngweision yn llafurio yn y gwaith, a'r hanner arall â gwaywffyn a tharianau a bwâu yn eu dwylo ac yn gwisgo llurigau; ac yr oedd y swyddogion yn arolygu holl bobl Jwda

17 oedd yn ailgodi'r mur. Yr oedd y rhai a gariai'r beichiau yn gweithio ag un llaw, ac yn dal arf â'r llall.

18 Yr oedd pob un o'r adeiladwyr yn gweithio â'i gleddyf ar ei glun. Yr oedd yr un a seiniai'r utgorn yn fy ymyl i,

19 a dywedais wrth y pendefigion a'r swyddogion a gweddill y bobl, “Y mae'r gwaith yn fawr ac ar wasgar, a ninnau wedi ein gwahanu ar y mur, pob un ymhell oddi wrth ei gymydog.

20 Ple bynnag y clywch sŵn yr utgorn, ymgasglwch atom yno; bydd ein Duw yn ymladd drosom.”

21 Felly yr aeth y gwaith rhagddo, gyda hanner y bobl yn dal gwaywffyn o doriad gwawr hyd ddyfodiad y sêr.

22 Y pryd hwnnw hefyd dywedais wrth y bobl fod pob dyn a'i was i letya y tu mewn i Jerwsalem er mwyn cadw gwyliadwriaeth liw nos a gweithio liw dydd.

23 Ac nid oedd yr un ohonom, myfi na'm brodyr na'm gweision na'r gwylwyr o'm cwmpas, yn tynnu ein dillad; yr oedd gan bob un ei arf wrth law.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13