20 o Salai, Calai; o Amoc, Eber;
21 o Hilceia, Hasabeia; o Jedaia, Nethaneel.
22 Yn nyddiau Eliasib yr oedd y Lefiaid, sef Joiada, Johanan a Jadua, a'r offeiriaid wedi eu cofrestru fel pennau-teuluoedd hyd at deyrnasiad Dareius y Persiad.
23 Yr oedd pennau-teuluoedd y Lefiaid wedi eu cofrestru yn llyfr y Cronicl hyd at amser Johanan fab Eliasib.
24 Arweinwyr y Lefiaid oedd: Hasabeia, Serebeia, Jesua fab Cadmiel a'u brodyr, oedd yn cymryd eu tro i foliannu a thalu diolch yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, ac i gadw cylch y gwasanaethau.
25 Mataneia, Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, ac Accub oedd y porthorion i wylio'r ystordai wrth y pyrth.
26 Yr oedd y rhain yn nyddiau Joiacim fab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd.