23 Yr oedd pennau-teuluoedd y Lefiaid wedi eu cofrestru yn llyfr y Cronicl hyd at amser Johanan fab Eliasib.
24 Arweinwyr y Lefiaid oedd: Hasabeia, Serebeia, Jesua fab Cadmiel a'u brodyr, oedd yn cymryd eu tro i foliannu a thalu diolch yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, ac i gadw cylch y gwasanaethau.
25 Mataneia, Bacbuceia, Obadeia, Mesulam, Talmon, ac Accub oedd y porthorion i wylio'r ystordai wrth y pyrth.
26 Yr oedd y rhain yn nyddiau Joiacim fab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd.
27 Pan ddaeth yr amser i gysegru mur Jerwsalem aethant i chwilio am y Lefiaid ymhle bynnag yr oeddent yn byw, a dod â hwy i Jerwsalem i ddathlu'r cysegru â llawenydd, mewn diolchgarwch a chân, gyda symbalau, nablau, a thelynau.
28 Ymgasglodd y cantorion o'r ardaloedd o amgylch Jerwsalem ac o bentrefi'r Netoffathiaid,
29 a hefyd o Beth-gilgal a rhanbarthau Geba ac Asmafeth; oherwydd yr oedd y cantorion wedi codi pentrefi iddynt eu hunain o amgylch Jerwsalem.