44 Y diwrnod hwnnw fe benodwyd dynion dros yr ystordai lle'r oedd y trysorau, y cyfraniadau, y blaenffrwyth a'r degymau, er mwyn casglu'r cyfrannau oedd yn ddyledus i'r offeiriaid a'r Lefiaid o'r meysydd o gwmpas y trefi; oherwydd yr oedd Jwda yn falch o wasanaeth yr offeiriaid a'r Lefiaid.
45 Yr oeddent yn gofalu am wasanaeth eu Duw ac yn cadw defodau puredigaeth, fel yr oedd y cantorion a'r porthorion yn ei wneud, yn ôl gorchymyn Dafydd a Solomon ei fab.
46 Oherwydd yn yr amser gynt, yn nyddiau Dafydd ac Asaff, yr oedd pen-cantorion a chanu mawl a diolch i Dduw.
47 Felly yn nyddiau Sorobabel ac yn nyddiau Nehemeia yr oedd holl Israel yn rhoi cyfran ddyddiol i'r cantorion a'r porthorion. Yr oeddent yn neilltuo cyfran i'r Lefiaid, a'r Lefiaid yn neilltuo cyfran i dylwyth Aaron.