8 A'r Lefiaid: Jesua, Binnui, Cadmiel, Serebeia, Jwda; a Mataneia a'i frodyr, oedd yn gyfrifol am y moliant,
9 a Bacbuceia ac Unni, eu brodyr, oedd yn sefyll gyferbyn â hwy yn y gwasanaethau.
10 Jesua oedd tad Joiacim, ac yr oedd Joiacim yn dad i Eliasib, ac Eliasib yn dad i Joiada,
11 a Joiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Jadua.
12 Ac yn nyddiau Joiacim, dyma'r offeiriaid oedd yn bennau-teuluoedd: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei;
13 o Esra, Mesulam; o Amareia, Jehohanan;
14 o Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff;