9 a Bacbuceia ac Unni, eu brodyr, oedd yn sefyll gyferbyn â hwy yn y gwasanaethau.
10 Jesua oedd tad Joiacim, ac yr oedd Joiacim yn dad i Eliasib, ac Eliasib yn dad i Joiada,
11 a Joiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Jadua.
12 Ac yn nyddiau Joiacim, dyma'r offeiriaid oedd yn bennau-teuluoedd: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei;
13 o Esra, Mesulam; o Amareia, Jehohanan;
14 o Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff;
15 o Harim, Adna; o Meraioth, Helcai;