12 codais liw nos, myfi a'r ychydig ddynion oedd gyda mi, ond heb ddweud wrth neb beth oedd fy Nuw wedi ei roi yn fy meddwl i'w wneud i Jerwsalem. Nid oedd anifail gyda mi ar wahân i'r un yr oeddwn yn marchogaeth arno.
13 Euthum allan liw nos trwy Borth y Glyn i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig ac at Borth y Dom, ac archwilio muriau drylliedig Jerwsalem a hefyd ei phyrth a losgwyd â thân.
14 Euthum ymlaen i Borth y Ffynnon ac i Lyn y Brenin, ond nid oedd lle i'm hanifail fynd trwodd.
15 Euthum i fyny'r dyffryn liw nos i archwilio'r mur, ac yna troi'n ôl a dychwelyd trwy Borth y Glyn.
16 Ni wyddai'r swyddogion i ble yr oeddwn wedi mynd na beth yr oeddwn yn ei wneud; hyd yma nid oeddwn wedi dweud dim wrth yr Iddewon na'r offeiriaid na'r penaethiaid na'r swyddogion na'r rhai a fyddai'n gyfrifol am wneud y gwaith.
17 Yna dywedais wrthynt, “Yr ydych yn gweld y trybini yr ydym ynddo; y mae Jerwsalem yn adfeilion a'i phyrth wedi eu llosgi â thân; dewch, adeiladwn fur Jerwsalem rhag inni fod yn waradwydd mwyach.”
18 Dywedais wrthynt fel yr oedd fy Nuw wedi fy helpu, a hefyd yr hyn a ddywedodd y brenin wrthyf. Yna dywedasant, “Awn ati i adeiladu.” A bu iddynt ymroi i'r gwaith yn ewyllysgar.